Rhidian Jones
Cwta tair wythnos sydd tan i Gymru gwrdd â Lloegr yng ngêm gyntaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Bydd mwy fyth o sbarc i’r gêm eleni gan taw rhagflas fydd hwn i’r gêm grŵp tyngedfennol rhwng Cymru a Lloegr yng Nghwpan y Byd ddiwedd mis Medi.

Bydd collwr y gêm honno yn Twickenham yn fwy na thebyg yn gadael Cwpan y Byd yn gynnar, felly byddai curo’r Saeson ymhen tair wythnos yn rhoi hwb seicolegol da i’r Cymry, os oes angen unrhyw esgus o gwbl i fynd amdani yn erbyn y gelyn pennaf.

Mae digon o rygbi i ddod eto tan gêm Lloegr – y Scarlets yn cwrdd â dau o gyn-enillwyr y cwpan, Caerlŷr a Toulon, a’r Gweilch yn cwrdd ag un arall, Northampton, tra bod y Dreigiau’n croesawu un o fawrion Ffrainc, Stade Francais, yn y Cwpan Her penwythnos nesa’.

Ac mae anafiadau wedi bod mor gyffredin y tymor yma fel ei bod hi’n anodd proffwydo beth fydd unrhyw dîm.

Ymhlith y chwaraewyr da sydd wedi treulio mwy o amser oddi ar y cae nag arno’r tymor yma mae Ken Owens a Gareth Davies (Scarlets), Rhys Patchell (Gleision), Aaron Jarvis a Dan Baker (Gweilch) a Lee Byrne (Dreigiau).

Ond beth bynnag dyma fy nghynnig i, ac mewn gwirionedd dw i ddim yn disgwyl i ddewisiadau Warren Gatland fod fawr gwahanol.

15 – Leigh Halfpenny. Mae fel y graig yn y cefn ac mae ei gicio’n werth rhyw 15 pwynt bob gêm. Byddai’n braf ei weld yn defnyddio’i gyflymder yn amlach ac yn rhedeg onglau gwahanol, ond er gwaethaf bygythiad Liam Williams mae Halfpenny’n cadw’r crys.

14 – Liam Williams. Does ganddo ddim mo cyflymder pur na maint Alex Cuthbert ond mae ganddo allu rhyfeddol i osgoi taclwyr neu i redeg trwyddynt. Mae wedi bod ar dân eleni ac mae’n amhosib ei hepgor o’r tîm, felly dyma fe’n cael crys yr asgellwr de.

13 – Scott Williams. Mae’n gryf, mae’n gyflym, mae’n llond llaw i’w daclo. Yn ôl pob tebyg nid yw Jonathan Davies wedi gwneud fawr o argraff yn Ffrainc hyd yma, ond fe gafodd Foxy anafiadau ddechrau’r tymor.

12 – Jamie Roberts. Does neb yn ddigon da hyd yma i ddisodli’r Doc.

11 – George North. Dywedodd Gatland y byddai wedi hepgor North o dîm Cymru yn yr hydref pe bai’r hogyn o Fôn heb gael ei anafu beth bynnag. Ond ar ei orau mae’n un o asgellwyr gorau’r byd. Mae Hallam Amos o’r Dreigiau’n edrych fel ei fod yn barod i herio am le yn nhîm Cymru.

10 – Dan Biggar. Mae ganddo bartneriaeth dda gyda Rhys Webb ac mae wedi datblygu ei redeg a’i daclo eleni. Rwy’n hoffi Rhys Priestland – ac mae Gatland hefyd – ac wrth i faswr y Scarlets adennill ei sbarc mae’n berffaith bosib y bydd e’n disodli Biggar unwaith eto yng Nghwpan y Byd. Mae James Hook ac Owen Williams yn chwarae’n gyson ar y lefel uchaf yn Lloegr hefyd, ac yn cael hwyl arni.

9 – Rhys Webb. Mae’n fygythiad cyson o gwmpas y pac. Mae angen iddo ffrwyno’i hyder a’i basys byrbwyll ar adegau, ond mae’n ffigwr pwysig.

Bydd hi’n braf gweld Gareth Davies yn adennill ffitrwydd ac efallai’n cystadlu gyda Webb cyn Cwpan y Byd. Ar ôl gwasanaeth hynod glodwiw teimlaf fod cyfnod Mike Phillips yn y crys coch yn dirwyn i ben.

8 – Taulupe Faletau. Rydym ni’n brin iawn o wythwyr da, traddodiadol yng Nghymru, a byddai’n braf petai rhagor o bwysau ar Faletau i gadw’r crys. Trueni bod Dan Baker wedi cael anafiadau eleni.

7 – Justin Tipuric. Mae’n rhy glyfar a chwimwth i’w adael ar y fainc.

6 – Sam Warburton. Mae’n gallu bod yn ddi-nod yng nghrys y Gleision ond yn codi ei berfformiad ar gyfer gemau Cymru.

Nid chwech yw ei safle traddodiadol ond byddai’r drindod yma yn y rheng ôl yn fygythiad yn ardal y dacl, gan fogi pêl gyflym y Saeson. Nid yw Dan Lydiate wedi gwneud digon dros y flwyddyn ddiwethaf i haeddu ei le.

5 – Alun Wyn Jones. Taer, clyfar, yn ysgogwr yn y pac.

4 – Jake Ball. Mae’n gryf, yn galed, ac yn edrych yn berffaith gartrefol ar y lefel ryngwladol.

3 – Samson Lee. Chewch chi ddim enw mwy addas. Does dim gêr rifŷrs ganddo yn y sgrymiau ac mae hynna’n amhrisiadwy.

2 – Richard Hibbard. Mae’n dipyn o argyfwng yn y safle yma yn dilyn anafiadau i Ken Owens ac Emyr Phillips. Mae Hibbard yn chwaraewr garw ac wedi dangos ei fod yn ddigon abl i lenwi’r crys.

1 – Gethin Jenkins. Mae’n ddibynadwy ac fel Warburton yn cadw ei orau ar gyfer gemau Cymru. Mae Rob Evans o’r Scarlets yn dynn wrth ei sodlau, ond ddim cweit yno eto.