Anne Kirkbride
Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i actores Coronation Street, Anne Kirkbride, sydd wedi marw ar ôl salwch byr yn 60 oed.

Roedd Anne Kirkbride wedi chwarae rhan Deirdre Barlow yn y gyfres sebon ers 44 o flynyddoedd.
Bu farw mewn ysbyty ym Manceinion.

Dywedodd William Roache, a oedd wedi chwarae ei gwr Ken Barlow yn y gyfres, bod ei marwolaeth yn golled fawr iddo efo yn bersonol am ei fod wedi gweithio gyda hi ers 40 o flynyddoedd.

“Mae Coronation Street wedi colli un o’i chymeriadau eiconig ac fe fydd colled enfawr ar ôl Anne.”

Roedd datganiad ar wefan ITV neithiwr yn dweud bod ei gwr David Beckett a chast a chriw Coronation Street wedi “torri eu calonnau ac wedi tristau yn fawr.”

Roedd Anne Kirkbride wedi dioddef o ganser y gwddf yn y gorffennol ond nid oes manylion ynglŷn â’i salwch diweddar.