Awyren Flybe
Mae awyren oedd yn cludo 51 o bobol wedi llithro wrth lanio ym maes awyr Inverness y bore yma.

Fe wnaeth yr awyren Flybe BE202, oedd wedi teithio o Fanceinion, lithio o’r llain lanio am tua 10:40yb a gwyro ar y gwair gerllaw.

Ni chafodd teithwyr nag aelodau’r criw eu hanafu, yn ôl swyddogion, ond mae’r maes awyr wedi cau er mwyn i’r awyren gael ei symud.

“Fe all Flybe gadarnhau bod olwynion yr awyren wedi llithro ar wyneb y llain lanio, gan achosi i’r awyren wyro at y gwair,” meddai llefarydd o’r cwmni hedfan.

Mae’r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr (AAIB) yn ymchwilio i’r digwyddiad.