Mae’r ymladd rhwng gwrthryfelwyr Shiaidd Houthis a’r fyddin yn Yemen wedi dwysau wedi ymosodiad arfog ar gerbydau Prif Weinidog y wlad, Khaled Bahah, y bore yma.

Mae adroddiadau hefyd bod y gwrthryfelwyr wedi cymryd rheolaeth o’r wasg.

Ers mis Medi, mae’r gwrthryfelwyr wedi meddiannu prif ddinas Yemen, Sanaa, ond dyma’r ymosodiad mwyaf ar lywodraeth y wlad ers misoedd.

Mewn cytundeb a’r cyn-brif weinidog, Abdrabbuh Mansour Hadi, fe wnaeth y gwrthryfelwyr addo gadael Sanaa unwaith y byddai llywodraeth newydd yn cael ei ffurfio. Ond maen nhw wedi aros yno ac wedi ehangu eu tir i ardaloedd gorllewinol hefyd.