Mae’r Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg wedi galw am ddod â thraddodiad Sesiwn Holi’r Prif Weinidog i ben.
Yn ôl Clegg, mae’r sesiynau wythnosol yn “ffars” ac fe ddywedodd fod y profiad yn “lletchwith” iddo.
Dywedodd Clegg wrth raglen Pienaar’s Politics ar Radio 5 Live fod “gwrando ar eich gwrthwynebwyr yn rhwygo’i gilydd yn ddarnau” yn “lletchwith” ac yn “chwerthinllyd”.
Ychwanegodd y byddai’n parhau i fynychu rhai o’r sesiynau cyn yr etholiad cyffredinol ym mis Mai.
Dywedodd nad yw’r sesiynau’n “ddefnydd da o’i amser”.