Mae rhagor o oedi heddiw ar yr Eurostar oherwydd trafferthion gyda chyflenwad pŵer yn y twnel.
Cafodd gwasanaethau eu hatal ddoe wedi i lori fynd ar dân yn un o’r twnelau.
Mae miloedd o bobol wedi methu teithio oherwydd y trafferthion dros y penwythnos.
Mae chwech o drenau o Lundain, dau o Baris a thri o Frwsel wedi cael eu canslo heddiw ac roedd y twnel ar gau am ddwy awr yn ystod y bore.
Dywedodd llefarydd ar ran Eurostar: “Cafodd Eurotunnel broblemau newydd gyda’u cyflenwad pŵer y bore ma oedd yn golygu bod y ddau dwnel ar gau am ddwy awr.
“Roedd hwn yn ddigwyddiad newydd, heb fod wedi’i gysylltu â’r problemau a gafwyd ddoe.”
Mae teithwyr ar y teithiau sydd wedi cael eu canslo wedi cael cyngor i brynu tocynnau newydd yn hytrach nag aros mewn gorsafoedd.