Mae’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May wedi dweud bod rhaid dileu gwrth-Semitiaeth yng ngwledydd Prydain.
Daw ei sylwadau yn dilyn pryderon ymhlith y gymuned Iddewig yn sgil yr ymosodiad ar archfarchnad Iddewig gan frawychwr ym Mharis.
Yn ystod digwyddiad i goffáu’r Iddewon fu farw ym Mharis, dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref fod y gyflafan yn “atgof o’r bygythiad difrifol rydyn ni’n ei wynebu gan frawychwyr”.
“Mae’r ymosodiad ar archfarchnad Iddewig, lle cafodd pedwar o bobol eu lladd, yn atgof iasol o wrth-Semitiaeth, nid yn unig yn Ffrainc ond y rhagfarn gwrth-Iddewig rydyn ni’n drist iawn wedi’i weld yma.”
Ychwanegodd nad oedd hi’n credu y deuai’r diwrnod pan fyddai Iddewon yn dweud eu bod yn ofni byw yng ngwledydd Prydain.
“Yn Ewrop, wrth gwrs, rydyn ni wedi gweld nifer fawr o bobol Iddewig yn mudo ac mae eraill yn cwestiynu eu dyfodol.
“Heb Iddewon, ni fyddai Prydain yn Brydain.”