Fe fydd Plaid Cymru’n cydweithio â’r SNP a’r Blaid Werdd yr wythnos hon i wrthwynebu adnewyddu’r system arfau niwclear Trident.

Bydd y tair plaid yn dod at ei gilydd ar ddiwrnod y gwrthbleidiau wrth iddyn nhw “adnabod tir cyffredin” trwy wrthwynebu rhaglen a fyddai’n costio £100 biliwn dros oes y system.

Aelod Seneddol Arfon, Hywel Williams fydd yn arwain y drafodaeth ar ran Plaid Cymru, ac mae disgwyl iddo ddweud bod gwrthwynebiad ei blaid i Trident yn “ddi-amod”.

Bydd yn ychwanegu na fydd ei blaid yn cefnogi llywodraeth sy’n ymrwymo i wastraffu biliynau o bunnoedd ar y cynllun.

Mewn datganiad, dywedodd Hywel Williams: “Mae gwrthwynebiad Plaid Cymru i adnewyddu Trident yn ddiamod a hirsefydlog.

“Mae tegwch a chyfiawnder gymdeithasol wrth galon amcanion ein plaid – byddai’n amhosib cynnal yr egwyddorion hyn pe baem yn credu ei bod hi’n dderbyniol i wastraffu biliynau ar un o greiriau’r Rhyfel Oer mewn cyfnod pan fo gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu torri.

“Yn ol amcangyfrifon mae Trident yn costio tua £100bn dros oes y system.

“Mae hi’n gwbl warthus awgrymu fod modd cyfiawnhau’r ffigwr hwn pan fo angen dirfawr i fuddsoddi yn ein hysbytai a’n hysgolion.

“Yr wythnos diwethaf, pleidleisiodd Llafur a’r Toriaid o blaid toriadau pellach gwerth biliynau o bunnoedd yn y senedd nesaf – ar yr un pryd, maent wedi ymrwymo i wario swm tebyg ar genhedlaeth newydd o arfau niwclear.

“Gyda’r gynghrair gwrth-lymder yn debygol o ddal cydbwysedd grym ar ol yr Etholiad Cyffredinol, mae hon yn ddadl hollbwysig a allai ddylanwadu ar y tirlun gwleidyddol ar ol y bleidlais ar Fai 7fed.

“Mae pleidiau San Steffan wedi osgoi’r mater hwn am rhy hir.”