Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg wedi dweud bod y Blaid Werdd yn cael eu defnyddio fel ‘alibi’ yn y ffrae tros y dadleuon teledu cyn yr etholiad cyffredinol.

Mae arweinydd y Blaid Werdd, Natalie Bennett wedi galw ar Clegg i sicrhau ei fod e, arweinydd UKIP Nigel Farage ac arweinydd y Blaid Lafur Ed Miliband yn cefnogi’r hawl i’w phlaid gael eu cynnwys yn y dadleuon.

Mae Clegg wedi gwrthod rhoi ei gefnogaeth iddyn nhw hyd yn hyn.

Yn ôl Clegg, mater i’r darlledwyr yw eu cynnwys neu beidio.

Mae’r Prif Weinidog David Cameron yn mynnu na fydd e’n cymryd rhan yn y dadleuon oni bai bod y Blaid Werdd yn cael eu cynnwys.

Dywedodd Clegg wrth raglen Andrew Marr ar y BBC ei fod yn credu y bydd y dadleuon yn cael eu cynnal.

“Rwy’n credu ei bod yn anochel mewn awyrgylch gwleidyddol rhanedig iawn – rhanedig mewn ffordd nad ydw i’n ei gofio yn ystod fy mywyd gwleidyddol – fod dau brif chwaraewr, y tîm coch a’r tîm glas, yn yr achos hwn yn defnyddio’r Blaid Werdd fel alibi ynghylch y dadleuon, yn ceisio gwasgu lleisiau ei gilydd.”

Dywedodd Natalie Bennett wrth Nick Clegg: “Rwy’n credu ein bod ni wedi treulio rhan fwyaf yr wythnos diwethaf yn dadlau am y dadleuon yn hytrach na thrafod materion a dw i ddim yn credu bod y cyhoedd yn mwynhau nac am i hynny ddigwydd.”

Wrth ymateb i her Bennett i roi pwysau ar y darlledwyr, dywedodd Clegg: “Mae angen i’r darlledwyr ddod ymlaen gyda chynigion eraill oherwydd nid ydw i’n hapus gyda’r un presennol am ei fod yn fy nghadw i draw fel arweinydd plaid sy’n llywodraethu, felly mae angen cynigion arnyn nhw.

Cafodd safbwynt Clegg ei ategu gan yr Arglwydd Ashdown, sydd wedi dweud na ddylai gwleidyddion benderfynu pwy sy’n cymryd rhan yn y dadleuon.

Dywedodd wrth Sky News: “Os yw’r Blaid Werdd am ddod i mewn, mae’n hollol glir beth ddylen nhw ei wneud – peidio cuddio y tu cefn i’r Prif Weinidog ond mynd i’r llys ac mae yna ddeddfwriaeth, gallan nhw ei herio fe.”