Heddlu Ffrainc
Mae Heddlu Ffrainc wedi rhyddhau tri unigolyn oedd wedi cael eu harestio fel rhan o gyrchoedd gwrth-frawychiaeth yn dilyn cyflafan Paris ar Ionawr 7.
Cafodd 17 o bobol eu lladd ym mhrifddinas Ffrainc yn dilyn ymosodiadau ar swyddfa’r cylchgrawn dychanol Charlie Hebdo ac ar archfarchnad Iddewig.
Cadarnhaodd erlynydd yn Ffrainc fod naw o unigolion eraill yn parhau yn y ddalfa ac y byddan nhw’n cael eu holi am 48 awr ychwanegol.
Mae dwsinau o unigolion wedi cael eu harestio yn Ffrainc, Yr Almaen a Gwlad Belg yn ystod y dyddiau diwethaf.