Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg wedi addo dileu anllythrennedd ymhlith plant Lloegr erbyn 2025.

Daw’r addewid fel rhan o raglen i warchod cyllidebau ar gyfer meithrinfeydd, ysgolion a cholegau yn ystod y cyfnod seneddol nesaf.

Dywed Clegg y byddai £116 miliwn ychwanegol ar gael yn flynyddol ar gyfer Blynyddoedd Cynnar, ac fe fydd staff meithrinfeydd yn cael eu hannog i ennill cymwysterau dysgu.

78% o ddisgyblion ysgol gynradd yng ngwledydd Prydain oedd wedi cyrraedd safon sylfaenol o ran eu sgiliau darllen.

Dywedodd Clegg ei bod yn fwriad gan ei blaid i godi safonau o fewn degawd.

Dywedodd mai “sgandal” yw’r ffaith fod un o bob pump o blant yn gadael yr ysgol gynradd heb eu bod nhw’n gallu darllen i lefel ddigonol.

Cafodd sylwadau Clegg eu hategu gan elusen Achub y Plant.

Dywedodd y prif weithredwr, Justin Forsyth: “Mae’r gefnogaeth heddiw gan y Democratiaid Rhyddfrydol ar gyfer ‘Read On, Get On’ i gael pob plentyn 11 oed i ddarllen yn dda erbyn 2025 i’w groesawu’n gynnes.

“Er mwyn gwireddu’r uchelgais, mae angen i ni weld pob plaid yn dilyn eu hesiampl.

“Mae dyfodol ein plant a llewyrch ein cenedl yn y dyfodol yn ddibynnol ar hynny.”