Mae pedwar o bobol wedi cael eu hachub yn dilyn tân mewn tŷ yng Nghwm Rhondda.

Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i’r tŷ yn Nhrealaw toc wedi 2.50 y bore ma.

Digwyddodd y tân yng nghegin y tŷ.

Doedd neb wedi’i anafu yn y digwyddiad.