Mae’r Wladwriaeth Islamaidd wedi rhyddhau o leiaf 200 o bobol Yazidi ar ôl eu cadw nhw’n wystlon am hyd at bum mis.
Mae’r rhan fwyaf yn oedrannus ac mae lle i gredu eu bod nhw’n arafu gweithredoedd yr eithafwyr.
Dywedodd llefarydd ar ran y lluoedd arfog Cwrdaidd fod y rhan fwyaf yn sâl ac wedi cael eu camdrin a’u hesgeuluso.
Mae tri o blant ymhlith y rhai sydd wedi cael eu rhyddhau.
Cafodd yr holl wystlon eu trosglwyddo o Tal Afar yng ngogledd Irac i ardal ger y brifddinas Gwrdaidd, Irbil, lle maen nhw’n cael eu holi gan yr awdurdodau.
Bu’n rhaid i ddegau o filoedd o bobol Yazidi ffoi ym mis Awst pan aeth y Wladwriaeth Islamaidd i mewn i dref Sinjar ger ffin Syria.
Ond cafodd cannoedd eu cipio, gyda nifer o fenywod yn cael eu gwerthu fel caethweision.
Mae cangen Sunni y Wladwriaeth Islamaidd yn gwrthwynebu pobol Yazidi ac yn mynnu eu bod nhw naill ai’n cydymffurfio ag Islam neu’n talu treth arbennig.