Protest yn Llundain yn erbyn rhyfel Irac
Mae arweinwyr gwleidyddol Yr Alban wedi galw am gyhoeddi adroddiad Ymchwiliad Chilcot i’r rhyfel yn Irac ‘heb oedi’.
Cafodd yr ymchwiliad, sydd wedi costio miliynau o bunnoedd, ei sefydlu bum mlynedd yn ôl.
Cafodd y gwrandawiad olaf ei gynnal yn 2011 ond dydy’r adroddiad ddim wedi gweld golau dydd hyd yma.
Un o’r rhai sy’n galw am gyhoeddi’r adroddiad yw Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon.
Bydd yr oedi yn cael ei drafod yn Nhŷ’r Cyffredin ar Ionawr 29 ar gais yr aelod seneddol Ceidwadol, David Davis.
Dywedodd fod yr oedi yn dylanwadu ar benderfyniadau Llywodraeth Prydain ynghylch mynd i ryfeloedd eraill.
Ychwanegodd y dylid cyhoeddi’r adroddiad neu gynnig esboniad ynghylch pam nad ydyw wedi’i gyhoeddi eto.