Y Senedd-dy ym Mrwsel
Mae’r heddlu yng Ngroeg wedi arestio nifer o bobol mewn perthynas â chynllwyn brawychol yng Ngwlad Belg.
Mae un o’r dynion wedi’i amau o fod â chysylltiadau a chell o frawychwyr yn Verviers yng Ngwlad Belg, lle cafodd dau o bobol eu lladd gan yr heddlu ddydd Iau.
Mae rhannau helaeth o Ewrop ar eu gwyliadwraeth ers i 17 o bobol gael eu lladd mewn cyflafan ym Mharis ar Ionawr 7.
Eisoes, mae mwy nag 20 o bobol wedi cael eu harestio yng Ngwlad Belg, Ffrainc a’r Almaen.
Mae nifer o dargedau posib yng Ngwlad Belg yn cael eu gwarchod gan yr heddlu.
Mae pump o bobol wedi’u cyhuddo o gymryd rhan mewn gweithredoedd brawychol, ac mae erlynwyr wedi datgelu manylion cynllwyn i ladd aelodau’r heddlu.
Mae lle i gredu bod un o arweinwyr y cynllwyn, Abdelhamid Abaaoud o Frwsel wedi bod yn cuddio yng Ngroeg.
Does dim cadarnhad eto a yw Abaaoud ymhlith y rhai sydd wedi cael eu harestio.