Mae gwasanaethau’r Eurostar wedi ail-gychwyn dros nos, yn dilyn tân yn y twnel ddoe a wnaeth atal miloedd o bobol rhag teithio.
Cafodd holl wasanaethau’r Eurostar eu hatal wedi i lori fynd ar dân ar ochr Ffrainc y twnel, ac fe fu’n rhaid i filoedd o deithwyr chwilio am ddulliau eraill o deithio.
Cafodd teithiau fferi eu cynnig i deithwyr yn y cyfamser.
Cadarnhaodd llefarydd ar ran Eurostar ar Twitter fod y gwasanaethau wedi ail-gychwyn am 2.45 y bore ma.
Mae disgwyl i holl wasanaethau’r Eurostar barhau heddiw, ond gall teithwyr ddisgwyl oedi o hyd at awr gan mai un twnel, nid y ddau, fydd ar agor.
Mae rhybudd i deithwyr oedd yn methu teithio ddoe i beidio mynd i’r Eurostar oni bai eu bod nhw wedi ail-drefnu tocynnau ar gyfer heddiw.