Fe allai’r ysgol gyntaf ym Mhrydain ar gyfer pobol ifanc hoyw, lesbian, deurywiol a thrawsrywiol agor o fewn y tair blynedd nesaf, yn ôl y Guardian heddiw.
Mae ymchwil yn cael ei wneud i’r posibilrwydd o agor yr ysgol ym Manceinion gyda lle ar gyfer 40 disgybl llawn amser, yn ogystal ag 20 disgybl rhan-amser sydd am barhau i dderbyn rhan o’u haddysg mewn ysgol arferol.
Dywedodd Amelia Lee, cyfarwyddwr Cymdeithas LGBT i bobol ifanc y gogledd orllewin, y byddai’r ysgol yn “achub bywydau”.
“Er bod y gyfraith yn honni ei body n gwarchod pobol hoyw yn erbyn bwlio homoffobaidd, y gwirionedd amdani yw bod bwlio, yn enwedig mewn ysgolion, yn gyffredin iawn ac yn achosi i bobol ifanc deimlo’n ynysig. Fe all weithiau arwain at driwantu, neu yn y sefyllfaoedd fwyaf erchyll, hunanladdiad.
“Ni fydd yr ysgol yn creu rhyw fath o seithfed nef i ffwrdd o’r byd go-iawn: rydym yn gweithio gyda 9,000 o ddisgyblion a 1,000 o athrawon bob blwyddyn i geisio eu haddysgu am rywioldeb.”
Ond dywedodd Amelia Lee bod y system addysg bresennol yn golygu bod 5-10% o ddisgyblion yn methu am nad yw’r drefn yn medru adnabod os yw pobol ifanc yn ei chael hi’n anodd ymdopi.
“Ar hyn o bryd, mi rydym ni angen mwy o ysgolion arbenigol,” meddai.
Byddai’n costio £16,000 y flwyddyn i ddisgybl fynychu’r ysgol, sydd yr un gost ag ysgolion arbenigol eraill.