Vaughan Gethin - Dirprwy Weinidog Iechyd Llywodraeth Cymru
Mae ffigurau newydd a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi methu targedau unedau damweiniau ac achosion brys am y bumed flynedd yn olynol.
Yn ôl y ffigyrau, 81% o gleifion oedd wedi treulio llai na phedair awr cyn iddyn nhw gael eu gweld, eu trosglwyddo neu’u rhyddhau o’r ysbyty ym mis Rhagfyr eleni. Roedd hyn yn ostyngiad o 2.8% o’r ffigwr ar gyfer mis Tachwedd, sef 83.8%.
Targed y Llywodraeth yw ceisio gweld 95% o bobol o fewn pedair awr.
Fe wnaeth 76,889 o gleifion ymweld â’r unedau brys ym mis Rhagfyr, yn ôl swyddogion y Llywodraeth, gan olygu mai dyma’r mis Rhagfyr “prysuraf mewn pum mlynedd.”
‘Pwysau sylweddol’
“Tra bod y gwahaniaeth yn y ffyrdd mae’r targedau’n cael eu mesur yn ei gwneud hi’n anodd gwneud cymhariaeth uniongyrchol gyda rhannau eraill o Brydain, mae hi’n gwbl eglur bod pob gwasanaeth iechyd yn profi pwysau sylweddol,” meddai’r dirprwy weinidog iechyd, Vaughan Gethin.
“Hoffwn ddiolch i bawb sy’n gweithio i’r GIG yng Nghymru am eu hymrwymiad i ofal cleifion yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Ond mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu’r Llywodraeth am fethu a chyrraedd y targedau unwaith ers i Carwyn Jones ddod yn brif weinidog yn 2009:
“Mae’n glir fod y Gwasanaeth Iechyd yn fater rhy fawr i’w osod o dan arweinyddiaeth yn blaid. Rydym angen Comisiwn clymbleidiol, fydd yn gweithio gyda gweithwyr iechyd a chleifion, i edrych ar ddyfodol y GIG a sut y mae’n mynd i wynebu’r heriau dyfodol.”
Ddoe, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru bod £40 miliwn yn ychwanegol yn cael ei roi i adrannau brys er mwyn helpu i ymdopi gyda phwysau’r gaeaf.