Aled Morgan Hughes
Fe allai cynnwys y Blaid Werdd yn y dadleuon teledu fod yn ergyd i Blaid Cymru, yn ôl Aled Morgan Hughes …
Gall Etholiad Cyffredinol 2015 brofi i fod yn un hanesyddol i Blaid Cymru.
Ar hyn o bryd, mae consensws eang o fewn y polau y bydd y blaid yn cadw ei thair sedd bresennol, tra yn ehangach, mae gobeithion mawr y bydd yn ail-feddiannu Môn a Cheredigion – gyda rhai hyd yn oed yn mentro darogan buddugoliaeth i’r hynod weithgar Vaughan Williams yn Llanelli.
Buasai pump (os nad chwech) Aelod Seneddol yn llwyddiant ysgubol i’r blaid – hen stori yw hi bellach fod dylanwad y wasg Brydeinig, Llundain-ganolog, yn atal ei thwf, yn enwedig pan mae’n dod at etholiadau San Steffan.
Yn sicr mae’r ddadl wedi ei hatgyfnerthu unwaith eto dros y misoedd diwethaf drwy’r saga am ddadleuon teledu’r arweinyddion.
Fel cefnogwr brwd o’r blaid, dw i’n credu y dylai Plaid ynghyd â’r SNP a’r Gwyrddion gael ymddangos yn y fath drafodaethau – wedi’r cwbl, yn Sweden, mae wyth plaid yn cael eu cynnwys! Ond dadl arall yw hwnnw.
Blog Iolo Cheung – Oes ateb arall i’r pleidiau bach ynglŷn â’r dadleuon teledu?
Cynnwys y Gwyrddion?
Er fy nymuniadau personol i a miloedd tebyg i gynnwys y pleidiau cenedlaetholgar, mae’n bosib iawn mai un senario all godi yw newid i strwythur y dadleuon, gydag arweinydd y Blaid Werdd yn cael ei hychwanegu at Cameron, Clegg, Miliband a Farage – ond Plaid a’r SNP yn parhau i gael eu hanwybyddu.
Yn sicr, fel yr amlygwyd gan benderfyniad diweddar Cameron i gefnogi cynnwys y Gwyrddion (ond dim sôn am Plaid/SNP), ni ellir diystyru’r senario yn gyfan gwbl.
Byddai rhai hefyd yn cyfeirio at y ffaith fod y Gwyrddion yn sefyll mewn etholaethau yn genedlaethol, tra bod Plaid ar SNP dim ond yn gwneud yn rhanbarthol.
Paradocs i Plaid
Drwy chwarae cerdyn “Beth os”, yn sicr fe fuasai senario o’r fath yn agor rhyw baradocs i Blaid Cymru.
Dros y misoedd diwethaf, mae yno barodrwydd amlwg wedi bodoli rhwng y Gwyrddion, Plaid a’r SNP i hyrwyddo consensws o gydweithrediad yn eu gwrthwynebiad i lymder (a amlygwyd ym mhleidlais ddiweddar San Steffan).
Mae hyd yn oed sôn wedi bod am eu parodrwydd posib fel grŵp i lunio clymblaid lywodraethol gyda Llafur yn dilyn yr etholiad.
Fodd bynnag, er ymddangosiad y cyfeillgarwch hwn, does dim clymblaid etholiadol ffurfiol wedi cael ei ffurfio rhwng Plaid a’r Gwyrddion eto fel y gwelwyd yng Ngheredigion yn 1992.
O ganlyniad i hyn, pan ddaw’r diwrnod tyngedfennol i bleidleisio fis Mai bydd Plaid Cymru, yn etholiadol, yn dal i frwydro yn erbyn y Blaid Werdd mewn etholaethau ar hyd a lled Cymru.
Er y cydweithrediad sydd wedi dod i gymeriadu’r berthynas rhwng y ddwy blaid ar hyn o bryd, mewn senario posib o absenoldeb Plaid yn y dadleuon teledu mae’n bosib iawn i’r Gwyrddion, gyda’i pholisïau cwbl wahanol i’r pedair plaid arall, brofi rhyw ymchwydd cefnogaeth (“Green Surge”) yn yr etholiadau hyn.
Mae hyn yn berthnasol wrth ystyried amhoblogrwydd y tair prif blaid – yn enwedig y chwalfa mae’r Democratiaid Rhyddfrydol am wynebu – gyda’r posibilrwydd y gallai eu cyn-gefnogwyr ganfod cartref newydd o fewn y Blaid Werdd.
Cario’r neges
Yn ddiweddar mae’r cyfryngau cymdeithasol wedi bod yn llawn sloganau gan gefnogwr y Blaid/SNP/Gwyrdd yn nodi “Vote Plaid in Wales, SNP in Scotland, Greens in England”.
Ond heb fodolaeth cytundeb etholiadol ffurfiol, ynghyd a rhai gwahaniaethau polisi, tybed a fuasai’r neges yn cael ei hatseinio gan y Gwyrddion yn y dadleuon teledu – a hynny ar y fath lwyfan amhrisiadwy o gyhoeddusrwydd?
Does dim dwywaith y buasai Plaid Cymru’n ceisio gwneud yn iawn am eu habsenoldeb o’r dadleuon drwy weithgarwch penigamp ar lawr gwlad a chyfryngau cymdeithasol, ond ar ddiwedd y dydd, ni ellir ychwaith tanbrisio’r dylanwad sydd yn gysylltiedig â’r dadleuon arweinyddol.
Yn hanesyddol, o Kennedy yn y 60au i Clinton yn y 90au i’r ‘Cleggmania’ a lyncodd rhai rhengoedd o’r gymdeithas Brydeinig yn 2010, maent wedi profi dro ar ôl tro i gael dylanwad sylweddol wrth i’r etholwyr wneud eu penderfyniadau.
Gwallgofrwydd pur fuasai awgrymu y buasai’r fath senario yn rhoi’r gallu i’r Gwyrddion ennill sedd yng Nghymru, ond yn sicr fe allai achosi i Blaid Cymru beidio ag ennill rhai.
Mae hyn yn wir yn enwedig wrth ystyried rhagolygon fod nifer o obeithion y blaid am seddau (heblaw am Dwyfor Meirionydd) yn ymddangos i fod yn rhai gymharol ymylol.
Yng Ngheredigion, er enghraifft – gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol ar chwâl, mae disgwyl canlyniad agos yno. A fuasai cyhoeddusrwydd cenedlaethol i bolisïau gwrth-lymder Natalie Bennett a’r Gwyrddion yn y dadleuon arweinyddol, ar draul absenoldeb Leanne Wood, yn helpu’r bleidlais Werdd i ennill cefnogaeth rhai ‘swing voters’, gan sathru felly ar gyfle Plaid Cymru o ennill y sedd?
Yr atebion
Yn amlwg, mae’r pwyslais ar ‘beth os’ yn fawr iawn yn y senario yma – ond wrth ymateb iddo dw i’n credu bod modd ystyried tri datrysiad.
Yn gyntaf oll; yr ateb rhesymegol, cyfiawn yw cynnwys pob plaid yn y ddadl. Heb os, dyma’r senario a fuasai’n gweithio orau i bob un o’r pleidiau.
Yn ail, cytundeb etholiadol ffurfiol rhwng Plaid a’r Gwyrddion – yn enwedig o fewn etholaethau targed y Blaid (annhebygol).
Ac yn olaf, felly, o ystyried bod y wasg a rhai pleidiau yn gyndyn i gynnwys pawb yn y dadleuon – tybed a fuasai cydraddoldeb rhyngddynt ar sail gwrthod lle i’r holl ‘bleidiau llai’ o fwy o fudd i obeithion etholiadol Plaid, na’u bod nhw’n absennol ond y Gwyrddion yn bresennol?
Mae Aled Morgan Hughes yn fyfyriwr MA mewn Gwleidyddiaeth Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth.