Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi dweud y gall cytundeb treth rhwng cwmni Amazon a Luxembourg fod yn anghyfreithlon.
Dywedodd aelodau o Gomisiwn yr UE eu bod yn pryderu bod y cytundeb yn “rhoi mantais economaidd i Amazon” mewn cymhariaeth a chwmnïau eraill.
Fe ddechreuodd yr UE ymchwilio i drefniadau treth Amzon ym mis Hydref ac mewn asesiad rhagarweiniol sy’n cael ei gyhoeddi heddiw maen nhw’n dweud bod y cwmni technoleg ar-lein yn talu trethi arbennig o isel yn Luxembourg.
Mae holl elw Ewropeaidd Amazon yn cael ei gofrestru yn Luxembourg, ond mae’n debyg bod y dreth sy’n rhaid ei dalu ar yr elw yn cael ei leihau wrth wneud taliadau i gwmni arall sydd ddim yn talu treth gorfforaethol.
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Amazon bod y cwmni yn talu’r un trethi â phob cwmni arall yn y wlad.
Mae gan Amazon warws enfawr yn Abertawe sy’n cyflogi hyd at 2,000 o bobol.