Mae canolfan Antur Waunfawr yng Nghaernarfon ymysg 21 o brosiectau fydd yn elwa o bron i £4.6 miliwn o arian gan Lywodraeth Cymru a Chronfa’r Loteri.
Fe fydd grantiau o hyd at £300,000 yn cael eu rhoi i brosiectau sy’n hyrwyddo economi cymunedau’r arfordir ledled y wlad.
“Rydym am weld cymunedau bywiog, llewyrchus ar hyd arfordir Cymru,” meddai Lesley Griffiths, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi wrth gyhoeddi’r cyllid.
“Bydd yn golygu y gall y rhai hynny sydd â gwybodaeth leol ddatblygu prosiectau sy’n mynd i’r afael â’r sefyllfa benodol sy’n wynebu eu cymunedau.”
Y gronfa
Cafodd Cronfa Cymunedau’r Arfordir ei sefydlu gan Lywodraeth Prydain yn 2011 i ddarparu cyllid ar sail ceisiadau i gymunedau arfordirol.
Cafodd y ceisiadau yng Nghymru eu hystyried gan Bwyllgor Cymunedau’r Arfordir Cymru a’u cymeradwyo gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi.
Y 21 o brosiectau sydd i elwa yw:
- Antur Waunfawr – £238,056 i ddatblygu busnes presennol yng Nghaernarfon fel menter gymdeithasol a fydd yn gwerthu, llogi, trwsio ac ailgylchu beiciau.
- RSPB Cymru – £267,843 am brosiect dwy flynedd i ddatblygu’r cyfleusterau presennol i ymwelwyr RSPB Cymru ar Ynys Lawd ar arfordir gorllewinol Ynys Môn.
- Cwmni Buddiannau Cymunedol Harbwr Porthcawl – £297,597 i ddatblygu ardal y Marina/Harbwr ym Mhorthcawl.
- Meithrinfa Gymraeg Derwen Deg – £283,898 ar gyfer prosiect i ddatblygu darpariaeth gofal plant newydd llawn amser yn y Gymraeg yng Nghyffordd Llandudno.
- Cwm Harry Land Trust Ltd – £75,000 i greu caffi newydd ar gyfer y Ganolfan Addysg ac Ymwelwyr Amgylcheddol, y tu allan i Dregarth, ger Bangor.
- Cardiff Marine Group Ltd – £300,000 i wneud gwelliannau sylweddol i harbwr a marina Aberystwyth, gan uwchraddio’r seilwaith a’r gwasanaethau.
- Sustrans Limited – £299,364 ar gyfer cynllun i adeiladu llwybr cerdded a beicio newydd sy’n cysylltu Pembre â Chydweli.
- Becws Islyn Bakery Ltd – £132,000 i ddatblygu busnes becws bach, sy’n cael ei redeg gan y teulu, ac sy’n eu galluogi i gynhyrchu cynnyrch crefft.
- Tape Community Music and Film Limited – £224,304 ar gyfer prosiect dwy flynedd i sefydlu gŵyl ffilmiau flynyddol yn Sir Ddinbych a Chonwy.
- Groundwork Gogledd Cymru – £54,615 ar gyfer cynllun a fydd yn eu galluogi i brynu treisicl gwerthu pwrpasol ac i recriwtio staff i’w ddefnyddio ar hyd rhan o Lwybr Arfordir Gogledd Cymru, gan roi gwybodaeth i dwristiaid, cymorth cyntaf sylfaenol a lluniaeth i bobol sy’n defnyddio’r llwybr.
- Chapel Bay Fort & Museum, Sir Benfro – £270,626 i helpu i adfer yr Heneb a gwella mynediad iddo.
- Cyngor Bro Morgannwg – £224,760 i sicrhau cymaint o waith â phosib ar Arfordir Treftadaeth Morgannwg, drwy annog busnesau newydd i ddatblygu.
- Menter Aberteifi Cyfyngedig – £109,974 i ail-sefydlu a datblygu Neuadd Farchnad Aberteifi fel canolfan fusnes.
- Rheilffordd Dyffryn Rheidol – £288,000 i ddarparu hyfforddiant sgiliau treftadaeth o safon ar Reilffordd Dreftadaeth Dyffryn Rheidiol.
- Cyngor Tref Nefyn – £300,000 i wella rhan o Lwybr Arfordir Cymru rhwng Nefyn a Morfa Nefyn.
- Cyngor Sir Ceredigion – £150,718 i godi proffil arfordir Ceredigion fel lle i ymweld ag ef gydol y flwyddyn.
- Bluestone Brewing Company Limited – £80,746 i gynnal prosiect blwyddyn i ddarparu cyfleusterau i ymwelwyr, cyfleusterau swyddfa a storio o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.
- Siambr Fasnach a Thwristiaeth Abergwaun a Gwdig – £291,032 ar gyfer prosiect i hyrwyddo Gogledd Sir Benfro fel cyrchfan i ymwelwyr.
- Menter Y Felin Uchaf Cyf, Pen Llŷn – £298,900 i greu Canolfan Archaeoleg, Mytholeg ac Adrodd Storïau newydd.
- Chwaraeon Dŵr Ceredigion – £123,974 i ddarparu cynnyrch a gweithgareddau newydd, offer wedi’i uwchraddio a rheoli proffesiynol.
- Cyngor Gwynedd – £280,205 i ddatblygu 13 o lwybrau syth neu gylchol a fydd yn cysylltu cymunedau â Llwybr Arfordir Cymru.