Mae cannoedd o bobl wedi bod yn ciwio am oriau y tu allan i siopau ar hyd a lled Prydain y bore yma er mwyn ceisio cael gafael ar gopi o Charlie Hebdo.

Fe aeth cyhoeddiad cyntaf y cylchgrawn dychanol ers yr ymosodiadau brawychol yr wythnos diwethaf ar werth yn Ffrainc dydd Mercher.

Bellach mae tua 1,000 o gopïau o’r cylchgrawn ar gael mewn siopau papur newydd ym Mhrydain, gyda’r disgwyl y byddan nhw wedi gwerthu allan ymhen dim.

Ond mae clawr y cylchgrawn, sydd yn dangos cartŵn o Mohammed yn crio, wedi cythruddo rhai Mwslemiaid sydd yn credu na ddylid dangos lluniau o’u proffwyd.

Ac mae nifer o bapurau newydd a chyhoeddiadau ym Mhrydain wedi gwrthod ailgyhoeddi’r cartŵn.

Ciwio drwy’r nos

Bu rhai pobl yn ciwio drwy’r nos er mwyn cael gafael ar un o gopïau prin Charlie Hebdo sydd ar gael ym Mhrydain.

Roedd tua 200 o bobl yn aros y tu allan i un siop yn Ne Kensington, Llundain, a dim ond un copi oedd gan bob person hawl i’w brynu.

“Mae’n bwysig bod yma i gefnogi rhyddid y wasg. Rwy’n gwybod beth mae hynny’n ei olygu i wlad,” meddai Moritz Riewoldt o’r Almaen fu’n ciwio ers 12.20 y bore.

Mae disgwyl i’r cylchgrawn brintio pum miliwn o gopïau i’w gwerthu ar draws y byd er mwyn ateb y galw am y cyhoeddiad arbennig – dim ond 60,000 copi o Charlie Hebdo sydd yn cael eu gwerthu yn wythnosol fel arfer.

Ac mae rhai copïau o’r cylchgrawn bellach ar werth ar Ebay am dros £1,000, er mai dim ond £2.30 y mae’r cyhoeddiad yn ei gostio.

‘Pwyll’ meddai arweinwyr Mwslemaidd

Yn y cyfamser, mae dros 50 o arweinwyr Mwslemaidd ym Mhrydain wedi galw ar y gymuned Islamaidd i bwyllo a pheidio â gorymateb i glawr diweddaraf Charlie Hebdo.

“Mae’n anochel y bydd y rhan fwyaf o Fwslemiaid yn cael eu brifo, pechu a’u siomi gan ailgyhoeddiad y cartwnau,” meddai’r imams ac arweinwyr crefyddol mewn llythyr agored.

“Ond mae’n rhaid i’n hymateb ni fod yn adlewyrchiad o wersi cymeriad addfwyn a thrugarog y proffwyd (tangnefedd iddo).

“Y ffordd orau o ymateb nawr yw gydag amynedd, goddefgarwch, addfwynder a thrugaredd, fel cymeriad ein proffwyd annwyl (tangnefedd a bendith iddo).”