Dr Laurence Taylor
Mae gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth yn gobeithio defnyddio technoleg 3D fodern i astudio’r safleoedd glanio arfaethedig ar gyfer taith crwydrwr ExoMars yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd.

Daw hyn wedi i’r Brifysgol gael gwybod heddiw fod prosiect y glaniwr gofod Beagle 2 wedi glanio yn llwyddiannus.

Fe fydd Dr Laurence Tyler a Dr Matt Gunn, oedd yn rhan o brosiect Beagle 2, yn defnyddio’r un dechnoleg a ddatblygwyd gan Grŵp Roboteg y Gofod Prifysgol Aberystwyth ar gyfer taith crwydrwr ExoMars yn 2018.

Wrth sôn am ddarganfod Beagle 2, dywedodd Dr Tyler o’r Athrofa Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg : “Roedd y tîm a oedd yn chwilio am Beagle 2 eisiau gwybodaeth am y llethrau ar y tir yn yr ardal hon o’r blaned Mawrth.

“Roeddem yn gallu dangos iddyn nhw bod yr ardal lle’r oedd y glaniwr i fod i lanio yn wastad iawn.”

Arwain

Yr Athro Colin Pillinger o’r Brifysgol Agored oedd arweinydd Beagle 2 ac roedd yr Athro Dave Barnes o Brifysgol Aberystwyth yn allweddol i’r prosiect – ond bu farw’r ddau’r llynedd.

Meddai Dr Laurence Tyler: “Rwy’n falch iawn o glywed ei bod yn debygol fod Beagle 2 wedi glanio’n llwyddiannus ond yn drist nad yw Dave yma i weld hyn. Byddai wedi bod wrth ei fodd bod Beagle 2 wedi glanio’n ddiogel a heb ei losgi yn yr atmosffer.”