Yr olygfa'n dilyn y cyrch yn Verviers
Mae dau berson oedd yn cael eu hamau o gynllunio ymosodiad brawychol yng Ngwlad Belg wedi cael eu lladd ar ôl i heddlu’r wlad gynnal cyrch.
Cafodd un dyn arall ei arestio wedi i’r heddlu gynnal y cyrch yn ninas Verviers ar amheuaeth o fod yn aelod o grŵp brawychol.
Bu’r digwyddiad neithiwr ychydig dros wythnos wedi i’r brodyr Kouachi ymosod ar staff cylchgrawn Ffrengig Charlie Hebdo ym Mharis gan ladd 12.
Cafodd dau berson eu harestio gan heddlu’r Almaen ym Merlin neithiwr hefyd ar amheuaeth o recriwtio milwyr i fynd i ymladd yn Syria.
‘Ar fin ymosod’
Dywedodd yr heddlu fod y ddau oedd o dan amheuaeth wedi cael eu lladd wrth iddyn nhw a swyddogion saethu at ei gilydd.
Yn ôl eu gwybodaeth nhw, roedd y brawychwyr wedi bwriadu targedu safleoedd yr heddlu yng Ngwlad Belg.
“Roedden nhw ar fin cynnal ymosodiadau brawychol pwysig,” meddai’r ynad ffederal Eric Van dêr Spyt.
“Mae’n dangos fod yn rhaid i ni fod yn ofalus iawn.”
Dyw hi ddim yn glir eto o ble ddaeth y brawychwyr, na sut gawson nhw afael ar ddrylliau ac arfau.
Ond yn ôl awdurdodau Gwlad Belg mae tua 300 o bobl wedi gadael y wlad i ymladd gydag eithafwyr Islamaidd yn Syria, ac nid yw’n amlwg faint ohonyn nhw sydd wedi dychwelyd.
Arestio dau ym Merlin
Yn y cyfamser fe gadarnhaodd heddlu’r Almaen fod dau berson wedi cael eu harestio yn y brifddinas, Berlin, ar amheuaeth o recriwtio milwyr i fynd i ymladd gydag eithafwyr Islamaidd yn Syria.
Mae’r ddau ddyn wedi cael eu cyhuddo o drefnu bod grŵp o bobl, y rhan fwyaf o dras Tyrceg neu Rwsieg, i deithio i’r wlad i ymladd.
Fodd bynnag, doedd gan yr heddlu ddim lle i gredu eu bod nhw yn cynllunio ymosodiadau o fewn yr Almaen ei hun.