Fe fydd y dyn ymosododd ar ddyn arall mewn siop Tesco yn yr Wyddgrug echdoe, yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Wrecsam y bore yma.

Cafodd dyn 24 oed o Swydd Efrog ei anafu yn ddifrifol ar ôl i Zac Davies, dyn 25 oed o ardal Stryd y Brenin y dref, ei drywanu yn y siop ddeuddydd yn ôl.

Mae’r heddlu bellach yn trin yr ymosodiad fel un “hiliol”, ar ôl adroddiadau bod yr ymosodwr wedi gweiddi “white power” wrth ymosod ar y dioddefwr oedd o dras Asiaidd.

Nid yw’r heddlu yn chwilio am unrhyw un arall yn gysylltiedig â’r ymosodiad.

Mae’r dioddefwr dal yn yr ysbyty yn derbyn triniaeth am anafiadau fydd yn “newid ei fywyd”, yn ôl yr heddlu.

Ymgais i lofruddio

Fe fydd Zac Davies yn ymddangos o flaen Llys yr Ynadon wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio, ar ôl yr ymosodiad am 1.40yp b’nawn Mercher.

Cafodd y siop Tesco a’r ffyrdd cyfagos eu cau yn dilyn y digwyddiad cyn cael eu hailagor ddoe, wrth i’r heddlu holi llygad dystion oedd yno.

Mae Heddlu’r Gogledd bellach wedi gwneud apêl am ragor o lygad dystion i’r ymosodiad.

Roedd adroddiadau fod yr ymosodwr wedi rhedeg ar ôl y dioddefwr drwy’r siop gan weiddi a dal cyllell, cyn ei drywanu.

Ymosodiad ‘hiliol’

Fe gadarnhaodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod hefyd yn parhau i drin yr ymosodiad fel un hiliol, a’u bod yn amau bod crefydd yn rhan o’r cymhelliant.

“Hoffwn sicrhau’r gymuned leol ei bod hi’n ymddangos fel digwyddiad unigol, o’n hymholiadau ni rydyn ni’n credu fod Davies wedi gwneud hyn ar ei ben ei hun a dydyn ni ddim yn chwilio am unrhyw un arall,” meddai’r Ditectif Brif Arolygydd Alun Oldfield sydd yn arwain yr ymchwiliad.

“Mae troseddau o’r fath yn brin iawn ac mae hi’n galonogol i ni weld cymaint o lygad dystion yn dod ymlaen i geisio creu’r darlun llawn i ni o beth ddigwyddodd, ond os oes unrhyw un arall all helpu rwyf yn eu hannog i gysylltu â’r heddlu.

“Mae’r dioddefwr 24 oed dal yn yr ysbyty gydag anafiadau fydd yn newid ei fywyd. Mae Swyddogion Ymdrin â’r Teulu yno i gefnogi ef a’i deulu.

“Rwy’n ymwybodol o sïon ar wefannau cymdeithasol am yr ymosodiad ac fe allai gadarnhau ein bod ni’n trin y peth fel digwyddiad gyda chymhelliant crefyddol, hiliol ac un o atgasedd.

“Er mwyn tawelu meddyliau’r gymuned leol fe fyddwn ni’n cynnal patrolau gweledol ychwanegol, gweithio gydag Awdurdod Lleol Sir Fflint a Wardeiniaid Cymunedol i gefnogi swyddogion a chymunedau, yn ogystal â bod â phresenoldeb yn Tesco i dawelu meddyliau staff a siopwyr.

“Mae’r mater nawr gerbron y llys felly fe fyddai’n amhriodol i ychwanegu unrhyw beth pellach.”