Mair Rowlands
Mae cynghorydd sir o Wynedd wedi cyfaddef y gallai annog myfyrwyr Prifysgol Bangor i bleidleisio yn etholiad cyffredinol mis Mai niweidio siawns Plaid Cymru o ddal eu gafael ar sedd Arfon.
Dywedodd Mair Rowlands, un o gynghorwyr Plaid Cymru yn ward Menai Bangor, y gallai ei chefnogaeth i ymgyrch y Cyngor i gofrestru myfyrwyr fod yn “gam gwag” ar ran ei phlaid hi.
Ond fe fynnodd y cynghorydd, sydd hefyd yn Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc Cyngor Gwynedd, fod yr egwyddor o gofrestru myfyrwyr yn bwysig er mwyn eu hannog i gymryd diddordeb mewn gwleidyddiaeth cyn yr etholiad.
Mae Hywel Williams yn amddiffyn mwyafrif o 1,455 yn Arfon, ac mae’n debyg fod dros 11,000 o fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor.
Cydweithio â’r Brifysgol
Yr wythnos hon fe gyhoeddodd Cyngor Gwynedd a Phrifysgol Bangor bartneriaeth er mwyn cynnal ymgyrch i annog miloedd o fyfyrwyr y brifysgol i gofrestru i bleidleisio yn etholiad cyffredinol mis Mai.
Roedd rhai o fyfyrwyr y brifysgol yn arfer cael eu cofrestru yn awtomatig gan eu neuadd breswyl, ond bellach mae’r system wedi newid ac mae disgwyl i bob unigolyn gofrestru eu hunain.
Ac fe bwysleisiodd Mair Rowlands, sydd yn cynrychioli ward â neuaddau preswyl ynddi, fod annog pobl ifanc i gymryd diddordeb yn yr etholiad yn hollbwysig.
Trafferth yn Arfon?
Nid pawb sydd yn credu fod yr ymgyrch yn syniad da, fodd bynnag – yn enwedig mewn etholaeth fel Arfon ble mae disgwyl y bydd AS Plaid Cymru Hywel Williams yn wynebu her fawr gan yr ymgeisydd Llafur Alun Pugh.
Mewn blog yr wythnos hon fe ddywedodd y cyn-ddarlithydd Prifysgol Bangor Dafydd Glyn Jones, ar ei flog Glyn Adda, y gallai pleidlais y myfyrwyr golli’r sedd i Blaid Cymru, fel y digwyddodd yng Ngheredigion yn 2005.
Dywedodd ei fod yn synnu gweld gwleidyddion Plaid Cymru yn cefnogi’r ymgyrch, gan ddweud “ein bod yn gweld yma nid yn unig dyrcwn yn fotio dros y Nadolig, ond tyrcwn yn deisebu am ddod â’r Nadolig yn nes”.
Ac mae Mair Rowlands yn cyfaddef ei bod hi’n bosib iawn nad i’w phlaid hi yr aiff pleidleisiau llawer o’r myfyrwyr.
“Mae hynny’n amlwg yn rhywbeth fysa rhai pobl yn ei feddwl, ac yn amlwg yn yr ardaloedd lle mae yna golegau mae yna lot o fyfyrwyr o’r tu allan i Gymru,” meddai Mair Rowlands, fydd yn sefyll dros Blaid Cymru yn Nyffryn Clwyd yn yr etholiad cyffredinol.
“Ond maen nhw dal yn byw yna am dair, pedair blynedd, mae dal ganddyn nhw’r hawl i roi eu barn a dylanwadu ar yr hyn sy’n digwydd yn eu cymunedau nhw.
“Felly ella fod o’n gam gwag, ond mae’n gyfle i ni fel plaid i godi ymwybyddiaeth nhw a hyrwyddo pa negeseuon rydan ni eisiau cael drosodd yn yr etholiad.
“I fyfyrwyr rhwng 18 a 25 oed sydd ddim wedi cymryd lot o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth am wahanol resymau, mae Plaid Cymru yn opsiwn amgen ella fysa nhw’n ystyried.”
Colli Arfon?
Yn ôl Mair Rowlands mae’n rhaid i Blaid Cymru ddarbwyllo myfyrwyr eu bod nhw’n ddewis deniadol ar gyfer yr etholiad os nad ydyn nhw am golli sedd Arfon – rhywbeth mae’n cyfaddef sydd yn bosib.
“Dw i’n meddwl ei bod hi’n bryder cyffredinol y gallwn ni golli’r sedd, ond rydan ni’n gweithio’n galed iawn i’w chadw hi,” cyfaddefodd y cynghorydd.
“Ond mae’r brifysgol yn mynd i fod yma am y tymor hir, felly mae’n rhaid i ni edrych ar sut ydan ni’n cael y drafodaeth yna efo’r myfyrwyr, lot ohonyn nhw’n dod o du allan i Gymru, a chael nhw i ddeall beth ydi Plaid Cymru.
“Pwy a ŵyr beth sydd yn mynd i ddigwydd. Dw i’n meddwl fod jyst rhaid i ni godi ein proffil ymysg y myfyrwyr.”