Stryd Fawr Bangor
Mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod 0.4% yn llai o bobol wedi siopa ar y Stryd Fawr yng Nghymru o’i gymharu gyda’r un cyfnod y llynedd.
Ond mae llygedyn o obaith i fusnesau lleol gan fod y ffigyrau hefyd wedi dangos bod cyflymder y gostyngiad wedi arafu o fis Tachwedd i fis Rhagfyr, meddai Consortiwm Siopa Cenedlaethol (BRC).
Dywedodd cyfarwyddwr cyffredinol y BRC, Helen Dickinson: “Nid yw’r gostyngiad o bobol yn edrych fel newyddion da i’r siopau ar yr olwg gyntaf, ond mae hi’n braf gweld cyflymder y gostyngiad yn arafu.
“Mae hi’n werth nodi hefyd nad yw llai o siopwyr yn gorfod golygu llai o werthiant. Rydym yn gwybod bod gwerthiant wedi bod yn gryf dros gyfnod y Nadolig.”
Mae’r siopa ar-lein a Dydd Gwener Gwyllt wedi cael eu beio’n rhannol am y gostyngiad yn nifer y siopwyr.