Mae'r AC Mohammad Asghar wedi cyflogi ei wraig a'i ferch
Mae llai o Aelodau’r Cynulliad yn cyflogi aelodau o’u teulu, yn ôl gwybodaeth sydd wedi dod i law cylchgrawn Golwg drwy gais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Chwe mis yn ôl, roedd traean o’r 60 o Aelodau yn defnyddio arian cyhoeddus i dalu i berthynas i weithio iddyn nhw.
Ond erbyn hyn mae’r nifer wedi syrthio o 20 i 13.
Mae gŵyr, gwragedd a phlant yr Aelodau dan sylw yn ymchwilwyr, swyddogion y wasg a phenaethiaid swyddfa.
Yn ôl y rheolau, nid yw Aelodau Cynulliad yn cael bod yn bresennol pan mae perthynas yn cael cyfweliad am swydd.
Galw am drefn ‘hyd braich’
Yn 2009, argymhelliad Panel Adolygu Annibynnol oedd y dylid gwahardd Aelodau Cynulliad rhag cyflogi aelodau o’u teulu, ac y dylid rhoi’r rheol honno ar waith yn raddol dros gyfnod o amser.
Mae un o aelodau’r Panel Adolygu Annibynnol wedi croesawu’r ffaith fod llai o Aelodau yn cyflogi perthnasau erbyn hyn.
“Mae hynny’n awgrymu bod yr Aelodau wedi derbyn ysbryd yr adroddiad ac yn ei weithredu a dw i’n falch iawn ohono fo,” meddai’r Arglwydd Dafydd Wigley, cyn-Aelod Cynulliad Arfon wrth Golwg.
“Mae hyn yn newyddion da bod yr Aelodau Cynulliad yn sensitif i’r mater yma ac yn iawn i fod hefyd gan mai arian cyhoeddus sydd yn y fantol.
Rhagor am y stori yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg.