Alun Ffred Jones
Mae’r cwmni sy’n codi canolfan newydd Pontio ym Mangor wedi cael ei ddewis i fod ar restr o gwmnïau sy’n gymwys i gynnig am gytundebau gwerth £200 miliwn i godi ysgolion newydd yng ngogledd Cymru.

Ond yn ôl y cyn-Weinidog Treftadaeth ac AC Arfon ddylai Galliford Try ddim bod yn derbyn yr un geiniog o arian cyhoeddus, oherwydd yr oedi sydd wedi bod wrth gwblhau Pontio – prosiect sydd wedi derbyn £30 miliwn o’r pwrs cyhoeddus.

Mae eu cynnwys ar y rhestr yn “embaras” i Lywodraeth Cymru, meddai Alun Ffred Jones.

Roedd y ganolfan gelfyddydau gwerth £48 miliwn i fod i agor fis Medi, ond bu’n rhaid gohirio’r Noson Agoriadol ac nid yw Prifysgol Bangor na Galliford Try yn gallu dweud pryd y bydd yr adeilad yn barod.

Mae’r cwmni yn un o saith sy’n cael eu hystyried yn gymwys gan Lywodraeth Cymru i gystadlu am gytundebau cynghorau sir ar gyfer adeiladu ysgolion cynradd ac uwchradd, canolfannau hamdden a swyddfeydd.

Y gwrthwynebiad

Mae Alun Ffred Jones yn dweud nad yw Galliford Try – sydd â swyddfeydd yn Lloegr a’r Alban, ond nid yng Nghymru – yn haeddu mwy o waith gan y sector gyhoeddus.

“Mae’r ffaith fod Galliford Try ar restr o gwmnïau sy’n cael eu ffafrio ar gyfer contractau cyhoeddus yn embaras i Lywodraeth Cymru,” meddai Aelod Cynulliad Arfon.

“Mae gynnon ni sefyllfa lle gall y cwmni yma gael cytundeb i godi ysgol newydd yng Ngwynedd, a hynny ar ôl iddyn nhw fethu’r dedlein ar gyfer cwblhau Pontio,” meddai Alun Ffred Jones.

Llywodraeth yn hapus

Ond mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn fodlon gyda gwaith Galliford Try.

“Dyw oedi wrth godi adeiladau mawr ddim yn anghyffredin,” meddai llefarydd y Llywodraeth.

“Rydym yn hyderus na fydd hyn yn cael effaith ar y datblygiad yn yr hirdymor. Byddwn yn parhau i gefnogi Prifysgol Bangor fel bod modd cwblhau’r prosiect mor fuan ag sydd bosib.”

Dywedodd Galliford Try eu bod “yn parhau wedi ymrwymo i gydweithio gyda Phrifysgol Bangor a’r holl gyfranddalwyr er mwyn cyrraedd diweddglo llwyddiannus i’r prosiect mawreddog hwn, a hynny cyn gynted ag sydd bosib.”

Stori lawn yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg.