Tŷ St John, Pen-y-bont ar Ogwr
Mae un o adeiladau hynaf Pen-y-bont ar Ogwr gam yn nes at ddatblygiad a fydd yn ei drawsnewid yn ganolfan gymunedol, yn sgil grant o£69,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL).

Mae cynlluniau i droi Tŷ St John yn ganolfan dreftadaeth, a fydd hefyd yn safle ar gyfer arddangosfeydd a siop de.

Fe fydd y grant CDL yn caniatáu i Ymddiriedolaeth Tŷ St John i brynu’r adeilad rhestredig Gradd II a pharau gyda’r bwriad o hyfforddi hyd at 80 gwirfoddolwr a fydd yn gweithio gydag ysgolion a grwpiau cymuned leol.

“Ers sefydlu’r Ymddiriedolaeth, ein prif amcan oedd diogelu’r adeilad ar gyfer y gymuned leol ym Mhen-y-bont,” meddai Ken Hinton, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Tŷ St John.

“Mae wedi bod yn rhan allweddol yn hanes yr ardal am dros bum canrif ac rydym nawr yn gobeithio bod mod di ni greu man cyfarfod ar gyfer y gymuned gyfan, gan wneud cyfraniad cadarnhaol i’r ardal.”

Adeilad 15fed Ganrif

Tŷ St John, neu Hosbis St John, yw’r adeilad seciwlar hynaf ym Mhen-y-bont gyda rhannau ohono’n olrhain i’r 15 Ganrif.

Mae rhai wedi awgrymu ei fod yn arfer bod yn le i bererinion ymweld ar eu siwrnai i Dŷ Ddewi, tra bod eraill yn awgrymu ei fod wedi bod yn ysbyty canoloesol.

Yn sgil arian Loteri Genedlaethol, fe fydd ei gwir hanes yn cael ei ymchwilio ymhellach fel rhan o’r prosiect hwn.