Mae heddlu wedi rhoi’r gorau i chwilio am ddyn 82 o Aberystwyth, wedi i gorff gael ei ddarganfod yn yr Afon Rheidol.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys bod teulu Richard John Middleton wedi cael gwybod am y darganfyddiad.

Cafodd Richard John Middleton ei weld y tro diwethaf yn ei gartref yng Ngarth y Môr, Aberystwyth, neithiwr.

Ond daethpwyd o hyd i’w gar wedi’i barcio ger yr afon ar Ystâd Ddiwydiannol Glanyrafon fore heddiw.

Roedd y Gwasanaeth Tân ac Achub, Gwylwyr y Glannau a bad achub wedi bod yn chwilio amdano.