Sameena Imam
Mae heddlu sy’n chwilio am Sameena Imam o Gaerdydd wedi troi eu golygon at randir yng Nghaerlŷr – ddyddiau wedi i ddau ddyn gael eu cyhuddo o’i llofruddio.
Cafodd Sameena Imam, 34, ei gweld ddiwethaf ar Noswyl Nadolig yn siop Costco yn Rhodfa Torrington, Coventry.
Cafwyd hyd i’w char BMW du gan dditectifs yn Luton, 65 milltir i ffwrdd.
Dridiau wedyn, cafodd Roger Cooper, 40 oed o Coventry, a David Cooper, 38 oed o Gaerlŷr, eu harestio yn eu cartrefi.
Mae’r heddlu bellach yn chwilio rhandir yn Heol Groby ac yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y diflaniad i gysylltu â nhw.
Nid yw corff Sameena Imam wedi cael ei ddarganfod.