Y Pab Ffransis
Yn dilyn yr ymosodiadau brawychol ym Mharis wythnos diwethaf, mae’r Pab Ffransis wedi dweud bod cyfyngiadau ar hawl rhywun i ryddid barn yn arbennig wrth sarhau neu wneud hwyl am ben crefydd.

Wrth siarad am yr ymosodiadau brawychol yn Ffrainc tra ar ei ffordd o Sri Lanka i Ynysoedd y Philipinau, dywedodd y Pab bod rhyddid barn yn hawl dynol sylfaenol ond, meddai, “allwch chi ddim herio”.

“Allwch chi ddim sarhau crefydd pobl eraill. Allwch chi ddim gwneud hwyl ar ben crefydd pobl eraill.”

“Petai fy ffrind da, Alberto Gasparri, yn sarhau fy mam, fe all o ddisgwyl dwrn,” meddai gan gymryd arno daro rhywun.

“Mae’n normal. Allwch chi ddim herio.”

Parch

Mae pobol ledled y byd wedi amddiffyn hawl Charlie Hebdo i gyhoeddi cartŵn o’r proffwyd Mohammed ar ôl cyflafan yn swyddfa’r cylchgrawn dychanol ac ymosodiad brawychol arall ym mhrifddinas Ffrainc wnaeth ladd 17 o bobol.

Ond fe wnaeth y Fatican gyhoeddi llythyr yn ddiweddar oedd yn condemnio’r ymosodiadau, wrth annog y gweisg i barchu crefyddau.