David Cameron
Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi cael ei gyhuddo o wneud “esgusodion pathetig” ynglŷn â’i safiad dros beidio cymryd rhan mewn dadl deledu cyn yr etholiadau.
Dywedodd Ed Miliband fod y Prif Weinidog “yn ofni” ymddangos yn y ddadl a bod neb wir yn coelio y byddai’n gwrthod cymryd rhan os na fydd y Blaid Werdd yn cael gwahoddiad i siarad.
“Mae’n esgus pathetig. Nid yw’n iawn ei fod o, na fi nac unrhyw arweinydd plaid arall yn cael dewis pwy sydd yn y ddadl.
“Ydy o wir yn dweud wrth bobol Prydain ei fod am wrthod cymryd rhan yn y ddadl deledu os nad ydy o’n cael dewis pwy sydd ynddo?”
Mae Cameron wedi taro nôl gan ddweud bod Ed Miliband yn ofni gorfod wynebu arweinydd y Blaid Werdd, Natalie Bennett, yn ogystal â Nick Clegg ac arweinydd UKIP, Nigel Farage, mewn dadl.
Mae’r SNP a Phlaid Cymru wedi dadlau y dylen nhw hefyd gael eu cynnwys yn y dadleuon.
Cymru
Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi ysgrifennu llythyr at arweinwyr y prif bleidiau yn cynnig bod dadl deledu yn cael ei chynnal yng Nghymru – er mwyn ymdrin â diffyg craffu a allai godi yng Nghymru.
“Ar hyn o bryd, mae perygl y bydd pobol yng Nghymru yn cael eu gwthio i’r cyrion gan y dadleuon teledu,” meddai.
“ Os cynhelir y dadleuon heb Blaid Cymru na’r SNP, yna mae’n amlwg mai materion Lloegr yn unig fydd flaenaf yn y dadleuon, ac na fydd materion datganoledig yn cael eu hystyried.
“Mae gan bobol yng Nghymru’r hawl i graffu ar y pleidiau allai gael effaith ar eu bywydau wedi’r etholiad. Gyda phosibilrwydd Senedd grog yn cynyddu, mae’n bosib iawn y bydd Plaid Cymru yn dal cydbwysedd grym.”