Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi arestio dyn am drywanu person ar ôl digwyddiad yn archfarchnad Tesco yn yr Wyddgrug.

Fe gadarnhaodd yr heddlu bod un person wedi cael ei gludo i’r ysbyty yn dilyn y digwyddiad, ond ni roddwyd unrhyw wybodaeth bellach gan fod ymchwiliad wedi ei agor i’r achos.

“Cafodd yr heddlu eu galw i siop Tesco yn Yr Wyddgrug am 1.39yp heddiw,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu wrth golwg360.

“Mae un dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o anafu, ac mae dyn a gafodd ei anafu wedi cael ei gludo i’r ysbyty i dderbyn triniaeth.

“Dyna’r oll allwn ni ddweud ar hyn o bryd.”

Roedd adroddiadau ar wefannau cymdeithasol wedi awgrymu bod dyn wedi bod yn bygwth pobl yn y siop gyda chyllell, a bod chwe cherbyd heddlu wedi cael eu galw i’r safle.

Dywedodd un person ar Twitter, @RichFay_, ei fod yn y siop ar y pryd a bod person wedi bod yn gweiddi “White Power”, cyn iddo weld yr heddlu yn cludo dyn i ffwrdd oedd â chyllell a morthwyl.