Yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May
Mae’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May wedi dweud ei bod yn “debygol iawn” fod awdurdodau Ffrainc wedi defnyddio data cyfathrebu i ddod o hyd i’r brawychwyr a laddodd 17 o bobol ym Mharis.

Mae May wedi galw unwaith eto am gyflwyno deddfwriaeth yng ngwledydd Prydain, wedi i’r syniad o gyflwyno Bil Data Cyfathrebu gael ei wfftio.

Ond mae’r Ysgrifennydd Cartref yn mynnu bod deddfwriaeth newydd yn hanfodol er mwyn amddiffyn y cyhoedd.

Heb y ddeddfwriaeth, meddai, “mae gallu’r bobol sy’n ein cadw ni’n ddiogel yn lleihau”.

Ychwanegodd fod rhaid i’r heddlu a’r awdurdodau diogelwch feddu ar y gallu a’r pwerau sydd eu hangen er mwyn gwneud eu gwaith yn effeithiol.

“Yn anffodus, pan ddaw hi i ddata cyfathrebu a rhyng-gipio cyfathrebiadau, does dim consensws ar draws y pleidiau ac felly dim mwyafrif seneddol i basio’r ddeddfwriaeth i roi’r gallu sydd ei angen i’r heddlu a gwasanaethau diogelwch.”

Dywedodd fod diffyg deddfwriaeth yn “peryglu bywydau”.

Nid mater o “sbecian” fyddai’r ddeddfwriaeth newydd, meddai, ond yn hytrach, darganfod pwy sy’n fygythiad i ddiogelwch cenedlaethol.

“Mae’n rhy gynnar i ddweud yn sicr ond mae hi’n debygol iawn y cafodd data cyfathrebu ei ddefnyddio o ran yr ymosodiadau ym Mharis i ddod o hyd i’r unigolion oedd yn cael eu hamau ac i ddarganfod cyswllt rhwng y ddau ymosodiad.”

Dywedodd fod lefel bygythiad i wledydd Prydain yn parhau’n “ddifrifol” ac y gallai ddigwydd yn ddirybudd.

Ffrainc

Mae prif arweinydd al Qaida yn yr Yemen wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad ar swyddfeydd y cylchgrawn Charlie Hebdo ym Mharis yr wythnos diwethaf.

Daeth y cyhoeddiad mewn neges fideo.

Cafodd 12 o bobl eu lladd yn yr ymosodiad ar bencadlys y cylchgrawn dychanol.

Ymddangosodd Nasr al-Ansi mewn fideo 11 munud o hyd, gan honni bod yr ymosodiad ar Charlie Hebdo yn “dial ar ran y proffwyd”.

Dywedodd fod al-Qaida wedi ariannu a chynllunio’r ymosodiad yr wythnos diwethaf.

Yn y cyfamser, mae llywodraeth Ffrainc wedi cadarnhau bod 54 o bobol wedi cael eu harestio ers yr ymosodiadau brawychol ar amheuaeth o ddefnyddio iaith sy’n annog casineb, gwrth-Semitiaeth neu’n canmol brawychiaeth.

Ymhlith y 54 roedd y comedïwr Dieudonne, ffigwr dadleuol sydd wedi ei gyhuddo yn y gorffennol o hiliaeth a gwrth-Semitiaeth.

Charlie Hebdo

Mae holl gopïau’r rhifyn diweddaraf o’r cylchgrawn Charlie Hebdo wedi’u gwerthu.

Cafodd 3 miliwn o gopïau eu hargraffu, a chafodd y cyfan eu gwerthu ar y bore cyntaf, ac fe ymddangosodd copïau ar y we am gannoedd o bunnoedd.

Mae lle i gredu y gallai nifer y copïau sy’n cael eu hargraffu godi i bum miliwn er mwyn ymateb i’r galw.

Mae clawr y rhifyn diweddaraf yn darlunio’r proffwyd Muhammad, ac mae wedi ei gyfieithu i nifer o ieithoedd.