Mae cymdeithas gerdd nodedig yn ceisio codi arian i anfon dwy delyn draw i Batagonia ac yn galw ar gerddorion ledled Cymru i’w cefnogi.

Bwriad yr apêl sydd wedi cael ei sefydlu gan Elinor Bennett, Cyfarwyddwraig Canolfan Gerdd Williams Mathias yng Nghaernarfon yw i “gadw’r traddodiad cerddorol Cymreig yn fyw” yn y Wladfa.

Ar drothwy dathlu canrif a hanner ers sefydlu’r gymdeithas Gymraeg ym Mhatagonia, mae hi’n gobeithio codi £10,000 erbyn diwedd mis Chwefror, fel bo plant sydd am ddysgu i ganu’r delyn yn medru gwneud hynny gan ddefnyddio offerynnau addas.

Hyd yn hyn, mae rhoddion o £2,300 wedi eu derbyn, ond mae angen hwb ychwanegol er mwyn medru prynu un delyn o Lydaw ac un gan Gwmni Telynau Teifi, Llandysul a’u cludo draw i’r Ariannin.

Traddodiad

Fe wnaeth Michael D Jones gludo’r delyn deires Gymreig i’r Wladfa yn y 19eg ganrif, ac mae hi i’w gweld yn Amgueddfa’r Gaiman, Patagonia.

“Mae’n dangos pwysigrwydd canu’r delyn i’r sefydlwyr cynnar,” meddai Elinor Bennet.

“Mi fyddai’n wych petaem fel telynorion, a rhai sy’n caru’r delyn, yn gallu prynu telynau newydd i alluogi plant i gynnal traddodiad cerddorol yn y Wladfa.

“Rwyf wedi bod yn breuddwydio ers rhai blynyddoedd am sicrhau telynau modern o ansawdd uchel i blant a phobol Patagonia, ac rwy’n teimlo mai nawr, wrth inni ddathlu pen-blwydd Y Wladfa yn gant a hanner, yw’r amser addas i droi’r freuddwyd yn realiti.”

Mae dwy delynores yn cynnig gwersi telyn ym Mhatagonia, ond mae’n dasg anodd i sicrhau offerynnau addas i’w disgyblion, yn ôl Elinor Bennett.

“Fy ngobaith yw codi digon o arian i brynu dwy delyn – un i’r gymuned Gymreig yn Nyffryn Camwy, a’r llall i’r gymdeithas yng Nghwm Hyfryd yn yr Andes.

“Apeliaf at bawb a gafodd wersi telyn erioed, i’m helpu i gyrraedd y nod.”