David Cameron
Mae Ed Miliband, Nick Clegg a Nigel Farage yn rhoi pwysau ar David Cameron i gymryd rhan mewn dadleuon teledu byw cyn yr etholiad cyffredinol.
Mae arweinwyr Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol a Ukip wedi anfon llythyron at y Prif Weinidog yn rhybuddio y byddai’n “annerbyniol” iddo geisio atal y dadleuon.
Yr wythnos diwethaf, fe ddywedodd David Cameron na fyddai’n cymryd rhan yn y dadleuon oni bai bod y Blaid Werdd hefyd yn cael ei chynnwys ochr yn ochr â Ukip.
Mae’r arweinwyr yn mynnu y bydd “cadair wag” i gynrychioli David Cameron yn ystod y dadleuon os nad yw’n ildio.