Fe fydd y cylchgrawn dychanol Charlie Hebdo yn cael ei werthu am y tro cyntaf heddiw ers yr ymosodiadau brawychol ar draws Paris yr wythnos diwethaf.
Yn ystod un o’r ymosodiadau gwaethaf ar brifddinas Ffrainc, cafodd 17 o bobol eu lladd, gan gynnwys nifer o staff y cylchgrawn ac aelodau’r heddlu.
Roedd y brawychwyr wedi ymateb i gartŵn yn y cylchgrawn oedd yn dychanu’r proffwyd Muhammad.
Mae’r proffwyd yn ymddangos ar glawr y rhifyn diweddaraf, sydd ar gael mewn Saesneg a Sbaeneg, ymhlith ieithoedd eraill.
Cafodd angladdau sawl un o’r rhai fu farw yn yr ymosodiadau eu cynnal ddoe.
Yn ystod seremoni i goffau’r plismyn, dywedodd Arlywydd Ffrainc eu bod nhw “wedi marw er mwyn i ni gael byw’n rhydd”.
Dywedodd prif olygydd y cylchgrawn, Gerard Biard fod y rhifyn diweddaraf wedi’i “lunio mewn poen a llawenydd”.
Ar glawr y cylchgrawn, mae’r proffwyd Muhammad ar gefndir gwyrdd gyda deigryn yn rhedeg i lawr ei foch, ac yn dal arwydd ‘Je suis Charlie’.
Pennawd y cylchgrawn yw ‘Tout est pardonné’ (Mae popeth wedi’i faddau), sy’n cael ei ddehongli fel pe bai’r proffwyd yn maddau i’r cylchgrawn am ei ddychanu.
Tra bod arweinwyr gwleidyddol Prydain wedi amddiffyn y cartŵn diweddaraf, mae’r pregethwr radicalaidd Anjem Choudary wedi dweud bod y cylchgrawn yn ceisio cythruddo Moslemiaid unwaith eto.
eBay
Mae copïau o’r rhifyn diweddaraf eisoes yn cael eu gwerthu ar eBay yng ngwledydd Prydain, gyda nifer o bobol yn talu dros £100 amdanyn nhw.
Mae hen gopïau o’r cylchgrawn yn gwerthu am brisiau uwch nag arfer yn Ffrainc, ac mae rhai siopau wedi rhedeg allan o’r rhifyn diweddaraf eisoes.
Mae ceisiadau ar eBay yn Ffrainc wedi cyrraedd 50 ewro (tua £39) hyd yn hyn.