Mae mwy o bobol yng Nghymru yn gwella o ganser er bod mwy yn cael diagnosis o’r clefyd, yn ôl adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd yr arbenigwyr y tu ôl i’r adroddiad ar ofal canser bod gostyngiad o 25% wedi bod yn nifer y marwolaethau rhwng 1995 a 2012 yng Nghymru ymysg pobol dan 75 oed.

Roedd hyn er bod nifer y bobol sy’n cael diagnosis o ganser wedi cynyddu o 16,400 rhwng 1995-2011 i 18,000 yn 2012.

Mae’r adroddiad hefyd yn cydnabod bod lle i wella ym mherfformiad y gwasanaeth iechyd wrth ddarparu gofal i bobol o fewn 62 diwrnod o ddiagnosis.

Heneiddio

Mae nifer y bobol sy’n cael diagnosis o ganser yn cynyddu i raddau helaeth o ganlyniad i’r boblogaeth sy’n heneiddio yng Nghymru, yn ôl y Llywodraeth.

“Dros y blynyddoedd i ddod, bydd un o bob tri pherson yn cael diagnosis o ganser cyn eu bod yn 75 oed ac oddeutu pedwar o bob deg yn cael diagnosis o ganser rywbryd yn ystod eu hoes,” meddai’r Dirprwy Weinidog Vaughan Gething.

“Ond mae triniaethau newydd mwy effeithiol yn golygu y gall llawer mwy o bobol nawr ddisgwyl byw’n hirach ar ôl cael triniaeth am ganser.”

Ychwanegodd Dr Andrew Goodall, prif weithredwr GIG Cymru: “Mae GIG Cymru wedi perfformio’n dda iawn dros y 12 mis diwethaf ac wedi gweld cynnydd o ran nifer o’n mesurau perfformiad.

“Mae hyn yn deyrnged i bawb sy’n ymwneud â’r gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau canser, gan gynnwys staff yn y GIG a staff mewn rhannau eraill o’r sectorau cyhoeddus.”

Mwy o oruchwylio

Dywedodd Pennaeth Gofal Macmillan yng Nghymru, Susan Morris, bod angen i Lywodraeth Cymru rŵan ddosbarthu holiaduron er mwyn mesur boddhad cleifion:

“Mae mwy i’w wneud er mwyn i raglen y Llywodraeth, Law yn Llaw at Iechyd – Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser, wireddu ei addewidion.

“Mae angen arweinyddiaeth genedlaethol i oruchwylio’r rhaglen a sicrhau bod gwell cynllunio a gwell canlyniadau i bobol sy’n cael eu heffeithio gan ganser.”