Mae sylwebydd ar derfysgaeth o’r Unol Daleithiau, sydd wedi cael ei wawdio ar wefannau cymdeithasol ar ôl disgrifio Birmingham fel dinas gaeedig i rai sydd ddim yn Fwslimiaid, wedi rhoi £500 i ysbyty plant yn y ddinas.
Mae Steven Emerson wedi rhoi’r arian ar ôl cyhoeddi cyfres o ymddiheuriadau i gyfryngau’r DU am ei “gamgymeriad anfaddeuol” wrth iddo ddarlledu ar Fox News dros y penwythnos.
Er iddo gael ei gyflwyno ar y sianel newyddion fel arbenigwr ar faterion sy’n ymwneud â therfysgaeth, dywedodd Steven Emerson fod Birmingham yn ddinas “hollol Fwslimaidd” a bod dim croeso i bobl o grefyddau eraill yno.
Mae hefyd yn wynebu deiseb ar-lein, sydd wedi denu dros 3,500 o enwau, yn galw arno i ymddiheuro ar deledu yn America.
Mewn datganiad yn cadarnhau ei fod wedi derbyn rhodd gan Steven Emerson, dywedodd llefarydd ar ran Elusennau Ysbyty Plant Birmingham: “Hoffem ddiolch i Steven Emerson am ei rodd.
“Bydd yr arian y mae wedi ei roi yn mynd tuag at wella bywydau miloedd o gleifion a’u teuluoedd sy’n cael eu trin yn ein hysbyty bob blwyddyn.
“Rydym yn gobeithio y bydd ymateb y cyhoedd i’w sylwadau yn dangos pa mor wych yw dinas Birmingham i fyw a gweithio ynddi.”