Ken Morley
Mae’r cyn-actor o Coronation Street, Ken Morley, wedi cael ei orfodi i adael tŷ Big Brother am ei fod wedi defnyddio “iaith annerbyniol”.

Cafodd cannoedd o gwynion eu cyflwyno wedi iddo ddisgrifio un o’i gyd-gystadleuwr, y canwr Americanaidd Alexander O’Neal, fel “negro”.

Dywedodd llefarydd ar ran Channel 5: “Mae Ken Morley wedi cael ei orfodi i adael tŷ Big Brother am iddo ddefnyddio iaith annerbyniol ar ôl iddo dderbyn cwyn swyddogol.”

Mae’r bleidlais i enwebu’r person nesaf i adael y tŷ wedi cael ei ganslo ac ad-daliad yn cael ei gynnig i unrhyw un sydd eisoes wedi pleidleisio dros y ffon.

Ken Morley, 71, yw’r ail berson i gael ei orfodi i adael y tŷ ers i’r rhaglen deledu Celebrity Big Brother gychwyn llai nag wythnos yn ôl.

Cafodd Jeremy Jackson, un o gyn-actorion Baywatch, ei daflu allan o’r tŷ wedi i Chloe Goodman, 21, honni ei fod wedi ymddwyn yn anweddus tuag ati gan geisio edrych ar ei bronnau.