Siop Palas Print yng Nghaernarfon, sy'n 'parhau i ffynnu'
Cyhoeddwyd heddiw y bydd siop lyfrau annibynnol Palas Print ym Mangor yn cau ddiwedd y mis.

Dywedodd perchnogion Palas Print, Eirian lames a Selwyn Jones, mewn e-lythyr heddiw nad ydyn nhw wedi “llwyddo i ddatblygu’r busnes ym Mangor” a’i bod hi gyda “thristwch mawr, ac ymddiheuriadau” fod yn rhaid iddyn nhw gau’r siop.

Maen nhw’n gwneud hynny er gwaethaf “ein holl ymdrechion, a chefnogaeth gyson carfan fechan o bobl yn ardal Bangor sy’n gwerthfawrogi’r hyn yr ydym yn ei wneud,”

Bydd y siop, sydd wedi ei lleoli ar y Stryd Fawr ym Mangor, yn cau ei drysau am y tro olaf ar 24 Ionawr. Mae hi wedi bod ar agor am 5 mlynedd.

Mae gan Palas Print siop yng Nghaernarfon hefyd ac mae’r perchnogion wedi pwysleisio fod y siop honno “yn parhau i ffynnu a datblygu er gwell o dymor i dymor”.

Ychwanegwyd eu bod nhw eisoes wedi cychwyn cynllunio rhaglen o weithgareddau ar gyfer y siop yng Nghaernarfon eleni.

Er eu bod nhw am gau’r siop ym Mangor, mae Palas Print yn ymchwilio i’r posibilrwydd o gynnig gwasanaeth i gwsmeriaid sy’n methu cyrraedd Caernarfon neu siopau lleol eraill yn rheolaidd trwy gynnig cludiant am ddim i gartrefi neu trwy gael man casglu ym Mangor.