Mae bachgen 19 oed wnaeth lofruddio bachgen 14 oed ar ôl iddyn nhw gyfarfod wrth chwarae gemau cyfrifiadurol dros y we wedi cael ei ddedfrydu i garchar am oes.
Fe wnaeth Lewis Daynes, 19, gyfaddef trywanu Breck Bednar o Surrey yn ei wddf ym mis Chwefror y llynedd.
Yn Llys y Goron Chelmsford heddiw, cafodd Daynes ei ddedfrydu i garchar am oes – bydd yn rhaid iddo dreulio o leiaf 25 mlynedd dan glo.
Fe wnaeth y barnwr ddisgrifio’r drosedd fel un gyda chymhelliant rhywiol.
Roedd Lewis Daynes wedi denu’r bachgen 14 oed i’w fflat yn Essex, lle’r oedd wedi cael rhyw gydag o cyn ei ladd.