Ed Miliband
Mae gwleidyddion sydd eisiau gadael yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn rhoi Prydain mewn sefyllfa sydd yn fwy agored i ymosodiadau brawychol, awgrymodd Ed Miliband heddiw.

Wedi iddo ymweld â Pharis i gofio am y rhai fu farw yn dilyn ymosodiad Charlie Hebdo, dywedodd arweinydd y blaid Lafur bod  cydweithrediad rhwng asiantaethau diogelwch mewn gwahanol wledydd yn hanfodol.

“Rydym mewn sefyllfa llawer gwell wrth weithio gyda gwledydd eraill mewn achosion o frawychiaeth,” meddai Ed Miliband wrth siarad yn Stevenage, Hertfordshire.

“Meddyliwch am ein heconomi hefyd, dw i’n meddwl ein bod ni’n llawer gwell yn aros y tu mewn i’r UE nac allan ohono.”

Sylwadau ‘amhriodol’

Ond mae ymgyrchwyr sydd am weld refferendwm yn cael ei gynnal ynglyn ag aelodaeth Prydain o’r UE wedi cyhuddo Ed Miliband o “ddychryn pobol”:

“Mae hi’n eithaf amhriodol i awgrymu y byddai system ddiogelwch Prydain mewn peryg os byddai refferendwm ar aelodaeth o’r UE yn cael ei gynnal,” meddai prif weithredwr y grwp Business for Britain, Matthew Elliott.

“Ni ddylai Ed Miliband geisio dychryn pobol mewn amser lle mae angen dadl gynhwysfawr ynglŷn â’r bygythiadau difrifol i’n system ddiogelwch.”