Y Canghellor George Osborne
Mae’r diwydiant ynni wedi mynnu bod gostyngiad ym mhrisiau olew yn cael eu trosglwyddo i gwsmeriaid ar ôl i’r Canghellor George Osborne gyhoeddi adolygiad o’r effaith ar filiau tanwydd, cost teithiau awyren a phrisiau petrol.

Er bod George Osborne wedi croesawu gostyngiad o 2c y litr ym mhris petrol mewn pedwar archfarchnad, dywedodd ei bod yn hanfodol bod prisiau olew isel yn cael eu hadlewyrchu yn yr hyn mae’r cyhoedd yn ei dalu am betrol, gwyliau a’u biliau ynni.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Ynni Ed Davey y bydd y Llywodraeth yn cadw “llygad barcud” ar y cwmnïau ynni er mwyn sicrhau bod gostyngiad ym mhrisiau nwy yn cael eu trosglwyddo i gwsmeriaid.

Ychwanegodd llefarydd ar ran y Trysorlys bod y Llywodraeth yn cynnal astudiaeth o nifer o ddiwydiannau i weld a oes angen cymryd unrhyw gamau os nad yw prisiau’n gostwng i gwsmeriaid.

Ond dywedodd llefarydd ynni’r Blaid Lafur Caroline Flint: “Mae’r Torïaid wedi cael pum mlynedd i fynd i’r afael a’r broblem yma ac wedi gwneud dim am y peth.

“Mae Llafur wedi dweud yn gyson y dylai’r rheoleiddiwr gael yr hawl i orfodi cwmnïau ynni i ostwng eu prisiau pan mae costau’n gostwng.

“Mae angen gweithredu, nid ymchwiliad arall.”