Mae Sainsbury’s wedi cyhoeddi gostyngiad o 1.7% yn ei gwerthiant yn y chwarter dros gyfnod y Nadolig.

Fe rybuddiodd y cwmni archfarchnad bod y rhagolygon ar gyfer y dyfodol yn parhau’n “heriol”.

Dywedodd y prif weithredwr Mike Coupe bod y gostyngiad mewn prisiau bwyd yn debygol o barhau.

Ond dywedodd bod perfformiad y cwmni yn y trydydd chwarter, sy’n cynnwys yr 14 wythnos hyd at 3 Ionawr, wedi dangos “gwelliant”. Roedd gwerthiant wedi gostwng 2.8% yn yr ail chwarter.

Yn ogystal, meddai, roedd 29.5 miliwn o gwsmeriaid wedi siopa yn Sainsbury’s yn yr wythnos cyn y Nadolig.

Mae disgwyl i  Tesco a Marks & Spencer gyhoeddi eu ffigurau gwerthiant yfory.

Cyhoeddodd Waitrose ddoe bod gwerthiant dros y Nadolig wedi cynyddu 2.8%.