Mae undeb wedi galw am ymchwiliad llawn i fethiant y cwmni dosbarthu City Link wrth i gannoedd o weithwyr eraill golli eu swyddi.
Yn ôl undeb yr RMT fe fydd y 300 o staff sy’n weddill yn City Link yn cael eu diswyddo heddiw.
Fe gollodd bron i 2,400 o weithwyr, gan gynnwys 80 yng Nghymru, eu swyddi ar Nos Galan pan gafodd y cwmni ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr dros y Nadolig, ac roedd cais munud olaf i achub y cwmni wedi methu.
Mae’r gweinyddwyr EY wedi cyhoeddi cytundeb i werthu offer City Link i Grŵp DX am £1.1 miliwn.
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol yr RMT, Mick Cash ei bod yn “warthus” bod y cwmni buddsoddi a oedd “wedi gwthio City Link dros y dibyn” wedi diogelu eu buddsoddiad tra bod y staff yn gorfod aros “misoedd” am unrhyw dal.
Ychwanegodd y byddai’r undeb yn parhau i frwydro dros y gweithlu a phwyso am ymchwiliad llawn i’r hyn a arweiniodd at fethiant y cwmni.