Arthur Jones
Mae disgwyl i gwest i farwolaeth Arthur Jones, y gŵr 73 oed fu farw ar Ynys Creta, gael ei gynnal yn Rhuthun yn ddiweddarach heddiw.
Cafwyd hyd i gorff Arthur Jones o Ddinbych ar dir garw yn ardal Chania ar 3 Awst y llynedd- chwe wythnos ar ôl iddo ddiflannu tra ar wyliau yno.
Bu swyddogion o Heddlu Gogledd Cymru a grŵp o Ddinbych yn chwilio amdano ar yr ynys a chafodd ymgyrch ei lansio ar wefannau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth am ei ddiflaniad.
Mae’r cwest eisoes wedi cael ei agor a’i ohirio ym mis Awst y llynedd.
Roedd Arthur Jones yn gyn-filwr ac yn gerddwr profiadol ond mae ei deulu’n credu y gallai fod wedi gorboethi yn y gwres.