Mark Pritchard AS
Fe gadarnhaodd Heddlu’r Met na fydd yr Aelod Seneddol Mark Pritchard yn wynebu unrhyw achos pellach dros honiadau o dreisio.

Cafodd AS Ceidwadol Wrekin ei arestio ar ôl iddo fynd i orsaf yr heddlu yn Llundain o’i wirfodd ar Ragfyr 2.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth tan heddiw, lle y cafodd wybod nad oedd yn wynebu achos pellach.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Heddlu: “Fe ymwelodd dyn 48 oed a gorsaf heddlu yn Llundain ar Ragfyr 2 lle cafodd ei arestio, yn dilyn honiadau o dreisio ynghanol Llundain.

“Fe ddychwelodd ar fechnïaeth ar Ionawr 6 lle y cafodd wybod nad oedd yn wynebu achos pellach oherwydd tystiolaeth annigonol.”

Yn dilyn cyhoeddiad yr heddlu, mae’r AS wedi galw am “adolygu’r” gyfraith i ganiatáu i bobl sydd wedi eu cyhuddo o droseddau rhyw i aros yn anhysbys, gan ddweud ei fod wedi bod drwy “gyfnod anodd.”